Relate, yr arbenigwyr ar berthynas
Rydyn ni yma i’ch helpu chi i ddod o hyd i atebion.

Nawr yw’r amser i ystyried cymorth perthynas. Mae gormod o gyplau yn ei gadael hi’n rhy hwyr. Mae Relate yn helpu 150,000 o bobl y flwyddyn. Byddwn yn eich helpu chi os ydych chi’n briod ai peidio, beth bynnag yw eich oed, hil, credoau personol, cyfeiriadedd rhywiol neu gefndir cymdeithasol.
Dewch i siarad â ni i ni gael penderfynu gyda’n gilydd sut allwn ni eich helpu chi.
Mae apwyntiadau dydd a nos ar gael mewn lleoliadau diogel, cyfrinachol a chefnogol yn ein canolfannau yng Nghonwy, Ynys Môn, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Gwynedd a Wrecsam.
Ynglŷn â Relate
Byddwn yn cynnig eich apwyntiad cyntaf cyn gynted ag y gallwn, fel arfer o fewn pythefnos. Os cytunir yn y cyfarfod hwn y byddai cwnsela neu therapi Relate yn ddefnyddiol, byddwn yn trafod ar ba adegau rheolaidd y gallwch chi ddod a phryd y gall hyn ddechrau. Gallwch ddod i’n gweld yn ystod y dydd neu gyda’r nos. Fel arfer, cynhelir sesiynau cwnsela unwaith y wythnos, ac maent yn para awr. Byddwch yn gweld yr un cwnsler bob wythnos a bydd y sesiynau’n parhau am gyhyd ag y byddwch chi a’ch cwnsler yn teimlo eu bod yn fuddiol, fel arfer rhwng 4 a 12 sesiwn (mwy ar gyfer therapi rhyw).
Relate yn 70
Prif elusen perthynas y wlad yn cyflwyno’r deg mater sy’n gwthio cyplau ar wahân… read more
Hanes Relate
Oeddech chi’n gwybod hynny? Wrth i Relate droi’n 70, rydym yn edrych yn… read more
Sylwadau gan Gleientiaid
Dyma rai sylwadau gan ein cleientiaid, gyda 94% ohonynt a fyddai’n argymell Relate i eraill:- read more…